SL(5)337 – Rheoliadau Iechyd a Lles Anifeiliaid (Diwygiadau Amrywiol) (Cymru) (Ymadael â'r UE) 2019

Cefndir a Diben

Gwneir y Rheoliadau drafft hyn o dan baragraff 1(1) o Atodlen 2 o Ddeddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Deddf 2018), a pharagraff 21 o Atodlen 7 iddi. Maent yn ceisio mynd i'r afael â methiannau cyfraith yr UE a ddargedwir i weithredu'n effeithiol, a diffygion eraill, sy'n deillio o ymadawiad y Deyrnas Unedig â'r Undeb Ewropeaidd.

Maent yn diwygio pedwar darn o is-ddeddfwriaeth ym maes iechyd a lles anifeiliaid:

-      Rheoliadau Cofrestru Sefydliadau (Ieir Dodwy) (Cymru) 2004;

-      Gorchymyn Lles Anifeiliaid (Cludo) (Cymru) 2007;

-      Rheoliadau Lles Anifeiliaid a Ffermir (Cymru) 2007;

-      a Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014;

mae'r rhain yn gyfraith yr UE a ddargedwir yn unol â Deddf 2018.

Mae'r rhan fwyaf o'r darpariaethau yn rhai mân a thechnegol ac nid ydynt yn newid effaith yr is-ddeddfwriaeth a ddiwygir. Fodd bynnag, mae rheoliadau 5(4) a 5(5) yn gwneud diwygiadau mwy sylweddol. Ymdrinnir â'r rhain isod.

Gweithdrefn

Cadarnhaol (newidiwyd o'r negyddol arfaethedig ar argymhelliad y Pwyllgor, ar ôl gwaith craffu o dan Reol Sefydlog 21.3B).

Materion technegol: craffu

Ni nodwyd unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu

Nodwyd dau bwynt i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Rydym o'r farn nad yw'r ffordd y mae Memorandwm Esboniadol yn egluro pam mae rheoliad 2 yn cyfeirio at Reoliadau'r UE yn gwbl ddefnyddiol, i'r Cynulliad nac i ddefnyddiwr y ddeddfwriaeth.

Mae paragraff 4.6 (yr ail is-baragraff) o'r Memorandwm Esboniadol yn nodi bod y cyfeiriadau yn “references to [the EU Regulations] as they will form part of domestic law by virtue of section 3 of the 2018 Act”. Yna mae'r Memorandwm Esboniadol yn nodi: “Such legal effect is to be provided by the proposed “European Union (Withdrawal) Act 2018 (Consequential Modifications and Repeals and Revocations) (EU Exit) Regulations 2019, to be made by the UK Government shortly”.

Rydym o'r farn bod y geiriad hwn braidd yn aneglur. Byddai'n well gennym gael gwahaniaeth cliriach rhwng:

-      adran 3 o Ddeddf 2018 yn gwneud y gwaith o ddargadw Rheoliadau'r UE fel eu bod yn rhan o gyfraith ddomestig ar ddiwrnod ymadael, a

-      Rheoliadau Deddf yr Undeb Ewropeaidd (Ymadael) 2018 (Addasiadau a Diddymiadau a Dirymiadau Canlyniadol) (Ymadael â'r UE) 2019 yn gwneud y gwaith o egluro bod cyfeirio, mewn deddfwriaeth ddomestig, at Reoliad yr UE yn gyfeiriad at Reoliad yr UE a ddargedwir yn union fel y mae ar adeg ymadael (ac nid yn gyfeiriad at, er enghraifft, Reoliad yr UE fel y'i diwygir o bosibl ar ôl gadael yr Undeb Ewropeaidd).

Mae hyn yn fater o bwysigrwydd i'r cyhoedd, gan y dylai ystyr ac effaith deddfwriaeth, gan gynnwys y ffordd y mae'n rhyngweithio â deddfwriaeth arall, fod yn dryloyw i'r rhai sy'n craffu arni, ac, yn bwysicach fyth, i'r rhai y mae'n effeithio arnynt.

2. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Cynulliad.

Mae Rheoliad 5(4) a (5) yn dileu'r darpariaethau lle mae tystysgrif cymhwysedd a roddir i weithwyr lladd-dai gan Aelod-wladwriaethau eraill yn cael ei chydnabod at ddibenion Rheoliadau Lles Anifeiliaid Adeg eu Lladd (Cymru) 2014. Mae hyn yn golygu i bob pwrpas y bydd yn rhaid i bobl sy'n cyflawni rhai swyddogaethau mewn lladd-dai yng Nghymru wneud cais am dystysgrif newydd a roddir gan y DU.  

 

Mae'r trefniant lle mae tystysgrifau cymhwysedd a roddir mewn un Aelod-wladwriaeth yr UE yn cael eu cydnabod gan bob Aelod-wladwriaeth arall yn ymddangos yn drefniant cyfatebol rhwng y DU a phob Aelod-wladwriaeth arall o'r UE, neu rhwng awdurdod cyhoeddus yn y DU (yn ymarferol, yr Asiantaeth Safonau Bwyd ) ac awdurdodau ym mhob Aelod-wladwriaeth arall o'r UE.  

 

Felly, ymddengys fod rheoliad 5(4) a (5) yn dileu trefniant cyfatebol rhwng Cymru (fel rhan o'r DU) ac Aelod-wladwriaethau'r UE neu awdurdodau cyhoeddus yn y gwladwriaethau hynny. Os felly, mae hyn yn dileu trefniant cyfatebol o fath y sonnir amdano yn adran 8(2)(c) neu (e) o Ddeddf 2018, sy'n golygu nad oes gan Weinidogion Cymru bŵer i wneud rheoliad 5(4) a (5) ) oni bai eu bod wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol (gweler paragraff 4 o Atodlen 2 i Ddeddf 2018). 

 

Nid yw'r rhagarweiniad na'r Memorandwm Esboniadol i'r Rheoliadau yn cyfeirio at ymgynghoriad o'r fath.

 

Er inni gael gwybod (yn anffurfiol wrth baratoi'r adroddiad hwn) fod Llywodraeth Cymru wedi ymgynghori â'r Ysgrifennydd Gwladol fel sy'n ofynnol gan Ddeddf 2018 ac y bydd Llywodraeth Cymru yn ceisio diwygio'r Memorandwm Esboniadol i ddweud cymaint, rydym am bwysleisio pwysigrwydd arferion deddfwriaethol da.

 

Yn y cyd-destun hwn, credwn fod arferion deddfwriaethol da yn gofyn am i ragarweiniad i offeryn statudol gyfeirio yn benodol at gyflawni unrhyw amodau statudol (megis dyletswydd i ymgynghori) y mae'n rhaid eu cyflawni cyn y gellir gwneud yr offeryn statudol.

Y goblygiadau yn sgil gadael yr Undeb Ewropeaidd 

Bydd yr offerynnau statudol a ddiwygir gan y Rheoliadau drafft hyn yn golygu "cyfraith yr UE a ddargedwir" at ddibenion Deddf yr UE (Ymadael). Gall hynny fod â goblygiadau ar gyfer cymhwysedd y Cynulliad, gan y gellid atal y Cynulliad rhag addasu cyfraith yr UE a ddargedwir, drwy reoliadau Llywodraeth y DU o dan adran 12 o Ddeddf 2018 (a elwir yn rheoliadau "rhewi" yn aml).

Fodd bynnag, ni ellir "rhewi" y rhan fwyaf o'r ddarpariaeth o sylwedd a wneir gan y Rheoliadau drafft hyn fel eu bod y tu allan i gymhwysedd y Cynulliad, gan y gallai'r Cynulliad fod wedi gwneud y ddarpariaeth gyfatebol o dan gyfraith yr UE cyn Brexit. Un eithriad fyddai'r darpariaethau yn rheoliad 5, sy'n dileu'r ddarpariaeth ar gyfer cydnabod tystysgrifau a roddir i weithwyr lladd-dai gan Aelod-wladwriaethau eraill. Ni allai'r Cynulliad fod wedi terfynu cydnabyddiaeth o'r fath cyn Brexit, gan y byddai gwneud hynny yn mynd i groes i gyfraith yr UE. Fodd bynnag, gallai adfer y gydnabyddiaeth honno yn y dyfodol, gan y byddai gwneud hynny yn gydnaws â chyfraith yr UE cyn Brexit - hyd yn oed pe bai Llywodraeth y DU yn gwneud rheoliadau rhewi i'r perwyl hwnnw.

Nodwn fod y Memorandwm Esboniadol (paragraff 7.2) yn cydnabod y bydd terfynu cydnabyddiaeth gilyddol o dystysgrifau cymhwysedd i weithwyr lladd-dai yn codi goblygiadau ymarferol ac ariannol i rai unigolion yng Nghymru. Mae Llywodraeth Cymru yn nodi eu bod ar ddeall mai pump o bobl yn unig yng Nghymru yr effeithir arnynt yn y modd hwn. Y ffaith mai ychydig iawn o bobl yr effeithir arnynt yw’r sail i benderfyniad Llywodraeth Cymru i beidio â chynnal Asesiad Effaith Rheoleiddiol o gostau a manteision cydymffurfio â’r Rheoliadau.  

Rydym o'r farn y dylai Llywodraeth Cymru egluro ar ba sail y mae'n deall mai pum person yn unig yr effeithir arnynt yn y modd hwn.

Ymateb y Llywodraeth

Mae angen ymateb gan y Llywodraeth.

Cynghorwyr Cyfreithiol

Y Pwyllgor Materion Cyfansoddiadol a Deddfwriaethol

5 Mawrth 2019